Mae llywydd un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn dweud y dylai Theresa May bellach ystyried “ymestyn Erthygl 50”, yn dilyn methiant ei chytundeb Brexit ar lawr Tŷ’r Cyffredin.

Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, roedd ei undeb ond wedi cefnogi’r cytundeb ar yr amod y byddai gwelliant wedi’i gynnwys yn gwrthod ‘dim cytundeb’ – yn y diwedd, fe gafodd hwnnw ei dynnu’n ôl.

“Rydan ni fel undeb wedi gofyn ers y dechrau ei bod hi’n bwysig rhoi digon o amser i drafod y pethau yma,” meddai Glyn Roberts wrth golwg360.

“Yn ôl yn y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf diwethaf, fe wnes i ofyn yn benodol, pan gefais i’r cyfle i gyfarfod â Theresa May, iddi gysidro ymestyn Erthygl 50.”

‘Dim cytundeb’ – “gaeaf aruthrol o hir”

Fe fyddai methu â chael cytundeb Brexit yn  cael “effaith andwyol iawn” ar y diwydiant amaeth yng Nghymru, yn ôl Glyn Roberts.

“Ar hyn o bryd, mae 30% o’n bwyd ni yn cael ei allforio i Ewrop, ac os ydan ni’n colli 30% o’r farchnad, mae’n mynd i gael effaith andwyol ar brisiau.

“Os ydan ni’n sbïo yn ôl ar 2001 pan ddaeth y clwy traed a’r genau dros nos, fel petai, fe stopiwyd allforio ŵyn i Ewrop, ac fe wnaeth y pris am ŵyn haneru bryd hynny…

“Fe ddywedodd Michael Gove [yr ysgrifennydd tros amaeth yn Lloegr] yn eithaf diweddar y bydd hi’n aeaf hir, ond mi fuaswn i’n dweud os ydan ni’n mynd allan heb gytundeb mae’n mynd i fod yn aeaf aruthrol o hir ar y diwydiant amaeth.”