Mae cyfieithydd wedi creu hanes yn eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 3) trwy ennill y Gadair a’r Goron.

Mae Megan Elenid Lewis yn aelod o glwb Trisant yng ngogledd y sir, a hi yw’r cyntaf erioed i gipio’r brif wobr am farddoniaeth a rhyddiaith yn yr un eisteddfod.

Dim ond ers 2015 y mae’r mudiad yn genedlaethol yn cynnig Coron ar gyfer rhyddiaith, gan fod beirdd a llenorion yn arfer mynd ben-ben am un brif wobr, sef y Gadair. Mae Ceredigion wedi dilyn arfer Cymru a, tan heno, doedd neb wedi ennill y dwbl ar lefel sir na chenedlaethol.

Neb yn codi

Yng Ngheredigion, mae’r ddwy seremoni yn cael eu cynnal yr un pryd ac, ar ôl i Megan Lewis ddod i’r llwyfan i dderbyn y Goron, fe ganodd yr utgorn eto i alw enillydd y Gadair – a neb yn codi.

Roedd yna fonllefau o gymeradwyaeth pan sylweddolodd y gynulleidfa beth oedd wedi digwydd.

Mae Megan Lewis bellach yn gyfieithydd yn Aberystwyth a, than y llynedd, roedd yn ohebydd gyda Golwg360 a chwmni Golwg yn Llanbed.

Crefft

Fe gafodd Megan Lewis o Lanfihangel y Creuddyn a Chlwb Trisant ganmoliaeth uchel am gerdd a stori fer, wrth iddi ennill y ddwy brif wobr lenyddol.

Yn ôl y beirniad, Rocet Arwel Jones, roedd etifeddiaeth awduron cefn gwlad fel Caryl Lewis a Heiddwen Thomas “mewn dwylo diogel”.

Dim ond ers tair blynedd y mae yna wobr ar wahân i’r prif lenor a’r prif fardd yn Eisteddfod Genedlaethol y mudiad ac mae Ceredigion wedi dilyn arfer Cymru.

Yn ôl Arwel Jones, roedd Megan Lewis wedi dangos crefft fawr wrth adeiladu ei stori fer, gan ddatblygu’r stori “fel gollwng edefyn rhwng bys a bawd”.

Fe fydd ei gweithiau buddugol yn mynd yn eu blaenau nawr i gynrychioli’r sir yn Eisteddfod Cymru y mudiad yn Y Barri yn ddiweddarach y mis hwn.