Mae un o gyflwynwyr y gyfres deledu Ffermio wedi ennill gwobr gan Undeb Amaethwyr Cymru am ei chyfraniad i’r byd amaeth yn Sir Gâr.

Ymhlith ei gwaith amlycaf mae cyfweliad gyda chyn-Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn ystod refferendwm Ewrop yn 2016. Mae hi hefyd wedi cyfweld â nifer o weinidogion amaeth, gan gynnwys John Griffiths, Alun Davies a Lesley Griffiths.

“Bu llawer o faterion dadleuol dros y blynyddoedd diwethaf – TB, Brexit, a’r Taliad Sengl – ac mae Meinir wedi holi’r cwestiynau anoddaf, ac yn cael yr atebion bob amser,” meddai Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin, David Waters.

“Mae hi wedi bod yn llais gwych ar ran ffermwyr, ac mae ei angerdd am y diwydiant yn amlwg.

“Mae Meinir wedi cyfrannu cymaint i ddiwydiant ffermio Sir Gaerfyrddin trwy ei gyrfa broffesiynol a’i gwaith gwirfoddol gyda’r CFfI – a hyn i gyd oherwydd yr angerdd dwfn sydd ganddi ar gyfer amaethyddiaeth. Mae Meinir yn enillydd teilwng iawn.”

Cefndir 

Fe gafodd Meinir Howells ei magu ar Fferm Maesteilo, Capel Isaac ger Llandeilo, a’i haddysgu yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfynydd ac Ysgol Tre-gib yn Llandeilo.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2007, gan fynd yn ymchwilydd i gwmni Telesgop y flwyddyn honno, ac yna’n gyfarwyddwr rhaglenni Ffermio a Digwyddiadau.

Bu’n gweithio ar fferm y teulu er pan oedd hi’n ifanc iawn, ac mae’n mwynhau arddangos ei defaid Balwen ei hun mewn sioeau.

Mae’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, hanner awr o adloniant, beirniadu stoc a chneifio.