Mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd heno (nos Fawrth, Mehefin 26),  cyhoeddwyd mai Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Goronwy Wynne ydi enilydd teitl Llyfr y Flwyddyn 2018.

Gwahoddwyd Goronwy Wynne i’r llwyfan yn gyntaf i gasglu’r Wobr Ffeithiol Greadigol, cyn dychwelyd i dderbyn prif wobr y noson o £3,000 ynghyd â thlws wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Cyflwynwyd y wobr i Goronwy Wynne gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas.

Mae’r gwobrau’n cael eu beirniadu gan banel annibynnol a gwahanol bob blwyddyn. Ar y panel Cymraeg eleni mae’r ddarlledwraig a’r cyflwynydd Beti George; y bardd Aneirin Karadog, a’r nofelydd Caryl Lewis.

“Wedi trafodaethau difyr, dwys, diddorol a dwfn, roeddem fel beirniaid yn unfryd o’r farn fod un llyfr yn anad dim yn haeddu Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni,” meddai Aneirin Karadog ar ran y panel beirniaid.

“Mae Blodau Cymru: Byd y Planhigion yn llyfr a ddylai fod ym mhob cartref, llyfrgell, ysgol a phrifysgol yng Nghymru. Llafur oes sy’n gampwaith nid yn unig o ran botaneg a bywyd gwyllt ein gwlad, ond hefyd yn gampwaith llenyddol.”