Gwenda Richards (Llun: Henaduriaeth Arfon)
Mae dynes o Gaernarfon yn creu mwy na 200 o botiau o jamiau bob blwyddyn – ac yn rhoi’r arian at elusen.

“Yn ddiweddar dw i wedi bod yn casglu at ysbyty yn yr India ac apêl Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ‘Corwynt cariad’,” meddai Gwenda Richards sy’n weinidog ar naw o gapeli ym Mro Lleu yng Ngwynedd.

Mae Gwenda Richards hefyd yn gweld gwerth mewn traddodiadau a chystadlaethau sioeau bach.

“Mae’r sioeau’n gyfle i bobol gymdeithasu a dod i adnabod ei gilydd,” meddai gan esbonio iddi gystadlu am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl yn sioe Dyffryn Nantlle.

‘Prysur newid’

Yn ôl Gwenda Richards, mae cymunedau gwledig yn “prysur newid” wrth “golli’r hen, a’r ifanc yn symud i ffwrdd”.

Yr un yw’r stori gyda’r capeli, meddai, gan esbonio ei bod yn gweld “dirywiad gyda nifer o’r capeli bach yn wynebu cau sydd yn biti mawr.”

“Ond wrth ddod at ei gilydd mae’n bosib cryfhau ambell i ardal ac arbed ar adnoddau.”

Ac wrth grwydro’r ardaloedd gwledig a’r sioeau bach, dywed Gwenda Richards ei bod yn dod o hyd i ambell i ‘gymeriad’.

Jamio

Esbonia Gwenda Richards ei bod yn cael boddhad o hel y ffrwythau yr adeg hon o’r flwyddyn a chreu jamiau mwyar, eirin, mafon, mefus, riwbob a gwsberis.

“Mae ffrwythau eleni bythefnos o flaen eu hamser arferol, a dw i wedi sylwi ar lai o gynnyrch gardd mewn ambell i sioe leol, efallai oherwydd y tywydd,” meddai.