Cneifio Cyflym Talybont (Llun: Steffan Nutting)
Bob blwyddyn, mae rhai cannoedd o bobol yn heidio i sgwâr pentref Tal-y-bont yng ngogledd Ceredigion ar benwythnos gŵyl y banc mis Awst i wylio gornest gneifio sydd ychydig yn wahanol i’r arfer.

Yn ôl un o’r trefnwyr, Steffan Nutting o glwb ffermwyr ifanc Tal-y-bont, mae tua 500 o bobol yn heidio i’r digwyddiad sydd wedi’i gynnal ar ôl y sioe leol am y chwe blynedd ddiwethaf.

“Mae’n llawer iawn o hwyl, ac mae’n gyfle i ddangos i bobol nad sy’n dod o gefndir amaethyddol rai o’r pethau gorau sy’n digwydd yma yng nghefn gwlad,” meddai wrth golwg360.

Cneifio, clecio, taro…

Cafodd y noson ei chynnal eleni ar nos Sadwrn, Awst 26, ac fel arfer mae’r trefnwyr yn darparu tua 120 o ŵyn i’w cneifio ac mae dosbarthiadau ar gyfer cneifwyr iau, canol, hŷn, i’r CFfI, i dimoedd ac i rai sy’n “hen law arni”.

Ond cystadleuaeth y timoedd sydd fel arfer yn mynd â phrif sylw’r dorf, meddai Steffan Nutting.

Esboniodd fod disgwyl i “un gneifio oen, un arall glecio peint a’r llall i fwrw hoelen i foncyff, a’r cyflymaf yn ennill wrth gwrs”.

 Mae’r cneifwyr yn cael eu gosod ar lwyfan tu allan i’r dafarn leol gyda’r cyflymaf yn llwyddo i gneifio oen mewn tua 20-30 eiliad, ac mae aelodau’r clwb yn rhoi sylwebaeth Gymraeg ar bob cystadleuydd. 

“Mae’n noson llawn cyffro ac mae’n rhyw fath o bont i bobol nad sydd ag unrhyw gefndir amaethyddol i allu gweld rhai o’n traddodiadau gwledig ac i ymuno yn yr hwyl wrth gwrs.”

Cymuned glòs

Dywedodd Steffan Nutting fod yr achlysur yn llwyddo i dynnu’r “gymuned gyfan at ei gilydd”.  

“Oes, mae yna bryder am bobol ifanc yn symud allan o gefn gwlad, ond mae digwyddiad fel hwn yn tynnu sylw at y gymuned glòs sydd gennym ni yma yn y pentref,” meddai.