Asiantaeth yn Lloegr sydd yn gyfrifol am achosi oedi yn y broses o dalu ffermwyr sydd â thir bob ochr i Glawdd Offa, yn ôl ffermwr o’r Drenewydd.

Yn ôl Basil Probert, sy’n byw yn Sarn ond sydd â thir yng Nghymru a Lloegr, mae methiannau’r Asiantaeth Daliadau Gwledig (RPA) yn atal Taliadau Gwledig Cymru (RPW) rhag medru talu ffermwyr yr ochr yma i’r ffin.

“Dw i’n credu bod system yr Asiantaeth Dalu Cymreig yn well na’r un Seisnig,” meddai Basil Probert wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i ni lenwi ffurflen [bapur] am ein tir Seisnig a’i danfon i Loegr. Mae’r ffurflen Gymreig yn cael ei danfon ar y cyfrifiadur. Maen nhw’n rhoi gwybod ‘rydyn ni’n barod i’ch talu chi nawr’.

“Ond pan dw i’n gofyn am y taliad, yr ateb dw i’n ei dderbyn ydi, ‘Rydyn ni’n aros am ddata gan Loegr’.

“Mae yna oedi oherwydd nad ydi Lloegr yn fodlon danfon y wybodaeth i Gymru. A dydyn nhw ddim wedi edrych ar y ffurflen yn Lloegr eto. Dydych chi ddim yn cael arian nes bod Lloegr yn danfon gwybodaeth i Gymru… ac yna mae Cymru yn talu.”

Yn ôl Basil Probert, doedd dim un ffermwr â thir yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn taliad ar amser ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ymateb

Yn ôl yr RPA, mae eu Prif Weithredwr, Paul Caldwell, yn derbyn bod yna ‘rai trafferthion’, ond mae’n addo bod y corff yn cyflwyno gwelliannau.

Mae Paul Caldwell yn nodi bod trafodaethau bellach yn cael eu cynnal gydag asiantaethau taliadau yn gynharach, ac mae’r sustem yn cael ei ddiwygio i hwyluso’r broses o drosglwyddo data.