Fe gyfrannodd holl gynnyrch amaethyddol Cymru £1.4bn at economi’r wlad yn 2016, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ôl bwletin ystadegol y Llywodraeth, gwerth cyfunol cynnyrch defaid a gwartheg oedd y gyfran uchaf o gynnyrch amaethyddol Cymru ar gyfer y flwyddyn, sef 44% ohono.

Roedd prisiau ar i fyny ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys prisiau da byw wedi pesgi ac o ganlyniad, roedd cyfanswm gwerth y sector defaid 4% yn uwch, a gwartheg 1% yn uwch.

Mae disgwyl i gynnyrch o ddefaid fod yn £267m, sydd tua £10m yn uwch na ffigurau 2015.

Gwelliant 

Yn ôl Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru, John Richards, “gwelliant yn amodau’r farchnad, yn enwedig yn ail hanner y flwyddyn” oedd yn gyfrifol am y cynnydd mewn cynnyrch, a hynny “yn rhannol am fod y bunt wedi gwanhau mewn cymhariaeth â’r Ewro”.

Ychwanegodd fod bwletin arall yn dangos bod rhagolygon incwm ffermydd yng Nghymru yn 2016-17 wedi cynyddu hefyd yn unol â chynnyrch defaid a gwartheg.

“Mae’r wybodaeth yma’n ddefnyddiol o ran dangos y tueddiadau hirdymor a gallai roi hyder i’r sector cig coch sydd wedi wynebu, ac yn dal i ddelio â chyfnod o ansicrwydd yn sgil Brexit,” meddai.

Mae disgwyl i incwm busnes cyfartalog y fferm ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid mewn Ardaloedd Llai Ffafrio fod yn £27,500 yn 2016-17 – ryw £5,600 yn uwch na ffigwr y flwyddyn gynt a chynnydd o 26%, y ffigwr uchaf ers pum mlynedd.

Taliadau Fferm Sylfaenol

Ychwanegodd John Richards mai’r cynnydd mewn Taliadau Fferm Sylfaenol yw’r ffactor pwysicaf yng ngwelliant prisiau marchnad ar gyfer gwartheg cig eidion a defaid.

“Amcangyfrifir y byddai’r amrywiad hwn yn y gyfradd gyfnewid wedi arwain at gynnydd o 17% yn lefel y taliad. Gobeithio y bydd y taliadau gwell yma yn cynyddu hyder ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau.

“Nodwedd drawiadol o’r ffigurau yma yw pwysigrwydd y cymhorthdal tuag at incwm blynyddol y fferm. Heb hwnnw, byddai llawer o ffermydd Cymru yn dangos colled.”

Mae disgwyl hefyd i’r gwelliant yn incwm ffermydd Ardaloedd Llai Ffafriol gael ei weld ar ffermydd gwartheg a defaid ar dir isel yng Nghymru.

Yr incwm fferm sy’n cael ei ragweld ar gyfer y math yma o fferm yw £22,000, sef cynnydd o 34% o’i gymharu â ffigurau 2015/16.