Mae effaith Brexit ar amaethu yng Nghymru yn cael ei ystyried yn swyddogol am y tro cyntaf heddiw – gydag aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â marchnad Dolgellau.

Mae eu hymweliad yn rhan o ymchwiliad ehangach i effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru a’i gwahanol sectorau.

A heddiw yn Nolgellau, amaethyddiaeth fydd yn mynd â’r prif sylw wrth i aelodau’r Pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd David Davies, gwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru.

Pynciau trafod

 

Wrth lansio’r ymchwiliad byddan nhw’n galw am dystiolaeth ysgrifenedig i’w ystyried erbyn 2 Mai 2017.

Y prif bynciau trafod yw a ddylai cyfrifoldeb dros bolisïau amaethyddol gael eu datganoli i Gymru neu eu rheoli gan Lywodraeth Prydain ar ôl 2020 pan nad oes sicrwydd beth fydd dyfodol cymorthdaliadau Polisi Amaeth Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Byddan nhw hefyd yn ystyried a oes angen datblygu mentrau ar gyfer anghenion arbennig Cymru i’w cynnwys mewn unrhyw bolisïau newydd.

Ac fe fyddan nhw’n archwilio pa farchnadoedd sydd orau i Gymru o ystyried bod 90% o gynnyrch Cymreig yn cael ei fasnachu drwy’r Undeb Ewropeaidd.

‘Archwilio’r effeithiau’

“Mae’r Pwyllgor wedi dod i Ddolgellau i weld pa mor allweddol yw amaethyddiaeth i Gymru ac i archwilio effaith unrhyw gytundeb posib Brexit,” meddai’r Aelod Seneddol David TC Davies a chadeirydd y pwyllgor.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn chwarae rhan fawr yn y sector, fel marchnad i’n cynnyrch ac fel ffynhonnell i gymorthdaliadau.

“Byddwn ni’n holi cynrychiolwyr o’r NFU a’r FUW am eu persbectif ar ddyfodol ffermio yng Nghymru ac yn gofyn beth sydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud i sicrhau ei fod yn parhau’n ddiwydiant hyfyw.”