O wefan y Prosiect
Fe fydd ymgynghori’n digwydd ynglŷn ag ailgyflwyno un o anifeiliaid coll byd natur yng Nghymru.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru’n gwneud cais ffurfiol am drwydded i ddod â’r afanc yn ôl i un ardal benodol yn y De.

Dyw’r union fan ddim wedi ei gyhoeddi, ond mae’r Ymddiriedolaethau’n gobeithio y bydd deg o anifeiliaid wedi eu gollwng yn rhydd yno cyn diwedd y flwyddyn.

Mae arbrofion llwyddiannus tebyg eisoes wedi bod yn yr Alban a de-orllewin Lloegr ond fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ystyried y cais, fod angen meddwl am yr effaith ar y bywyd gwyllt sydd mewn ardal ar hyn o bryd.

‘Lles i fyd natur’

Dadl Prosiect Afancod Cymru yw y byddai ailgyflwyno’r anifail ar ôl tua 500 mlynedd yn gwneud byd o les i gynefinoedd cyfan.

“Y dystiolaeth o Brydain ac Ewrop yw y gallan nhw fod o fudd i ecoleg, gan helpu gyda lleihau llifogydd a ffiltro dŵr ac y gallan nhw gael canlyniadau pwysig i dirwedd,” meddai swyddog y Prosiect, Alicia Leow-Dyke.

“Lle mae’r ailgyflwyno’n cael ei ystyried, gallai’r afancod helpu i adfer cynefin, dod â golau i mewn i lecynnau lle mae gormod o dyfiant a gadael i weddill natur ffynnu.”

Cefnogaeth a phryder

Mae’r naturiaethwr, Iolo Williams, wedi cefnogi’r cais gan ddweud mai ei freuddwyd yw gweld yr afanc yn ôl yng Nghymru.

Mae rhai ffermwyr a physgotwyr yn y gorffennol wedi mynegi pryder am effaith afancod ar weddill bywyd gwyllt a physgod.