Mae’r dyddiau’n byrhau, y tywydd yn oeri, a’r stoc ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru naill ai tu fewn, neu ar borthiant gaeaf.

I’r stocmyn gwartheg, mae’n golygu agor y cladd silwair, a chodi ychydig ynghynt er mwyn galluogi i’r gwaith ychwanegol o garthu, gwellto a bwydo gael ei gwblhau mewn da o bryd.

I’r bugeiliaid, mae’n golygu gwisgo haenen arall o ddillad yn y tywydd garw wrth oruchwylio eu praidd, a chludo bwyd ychwanegol iddynt i gyflenwi diffyg tyfiant y glaswellt.

Y Ffair Aeaf

Un o uchafbwyntiau’r wythnosau nesaf imi yw’r Ffair Aeaf ar faes y sioe yn Llanelwedd.

Mae’n gyfle i arddangos cynnyrch ffermydd Cymru gyda dros 1,300 o wartheg, moch, defaid a cheffylau, yn ogystal â chystadlaethau carcas, stondinau celf a chrefft a llawer mwy.

Mae llawer o gyhoeddiadau’n dueddol o gael eu gwneud yma hefyd, a dyma ambell beth rwy’n awyddus i glywed mwy amdanyn nhw…

Antibiotigion

Mae mis Tachwedd wedi gweld nifer o ddadleuon o’r ddwy ochr o ran deunydd antibiotigion ar anifeiliaid fferm.

Mae pryderon ers blynyddoedd o ran “esgeulustod” amaethyddiaeth tuag at eu defnydd o antibiotigion a all arwain at rhai clefydau yn gwrthsefyll triniaeth yn y dyfodol.

Mae gwrthsefyll antibiotigion yn sefyllfa sydd angen ei thaclo dros y byd yn feddygol ac yn filfeddygol.

Mae amaethyddiaeth yn cyrraedd eu targedau o leihau defnydd antibiotigion, ac ar y trywydd iawn i ragori’r targed cafodd ei osod ar gyfer 2018.

Mae dofednod wedi bron haneru eu defnydd o antibiotigion yn y pedair blynedd diwethaf, ac mae’r sector moch wedi lansio system ar-lein i gofnodi’r cwymp mewn defnydd o antibiotigion.

Rwy’n cydnabod y broblem o wrthsefyll antibiotigion, ond credaf taw’r ffordd gorau i daclo hyn yw defnyddio nhw mewn ffordd fwy cyfrifol, a defnyddio dulliau rhwystro yn hytrach na gwella gan fod hyn llawer gwell yn ariannol ac yn fiolegol.

Ardaloedd NVZ – diangen i ffermwyr da byw?

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal cyfnod o ymgynghori gyda ffermwyr Cymru o ran y posibiliad o ehangu NVZ (Nitrate Vulnerable Zones) ar draws Cymru gyfan.

Mae hyn yn dwf sylweddol o’i gymharu â’r 2.4% o dir Cymru mae’r cynllun yn ei oruchwylio ar hyn o bryd.

Petai hyn yn digwydd, bydd holl ffermwyr Cymru o dan yr orfodaeth o orfod dilyn canllawiau newydd, ac ni fydd hawl gan unrhyw dirfeddiannwr rhoi mwy na 250Kg o Nitrogen i bob hectar.

O ystyried y canllawiau sydd i gael yn barod i sicrhau lleihau Nitradau yn trwytholchi i mewn i’r amgylchedd, a bod ffermydd Cymru ar gyfartaledd yn rhoi tipyn llai na 250Kg o Nitrogen i bob hectar, yna credir nifer fod y weithred yma yn un ddiangen i ffermwyr da byw.

Bydden i’n dadlau y byddai’n well ffocysu’r NVZ ar y ffermydd tir âr, ac annog mwy o ffermydd Cymru i ddefnyddio systemau mwy effeithlon o osod slyri a thail er mwyn lleihau gwastraff Nitradau. Mae angen inni fel ffermwyr gofio cysylltu gydag Undeb Amaethwyr Cymru neu NFU Cymru er mwyn lleisio barn am y mater yma, ar effaith byddai’n cael ar ein ffermydd.

* Mae Cennydd yn astudio am radd meistr mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth