Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymateb i bryderon mudiad cadwraeth ynglyn â faint o ddwr sy’n cael ei dynnu o afonydd o ganlyniad i sefydlu cynlluniau hydro yn yr ardal.

Mae’r Parc yn dweud, mewn ymateb i stori a gyhoeddwyd ar y wefan hon ben bore heddiw, ei fod yn ystyried pob cais ar ei delerau unigryw ei hun. Ond wedyn, nid y Parc sy’n gyfrifol am faint o ddwr sy’n cael ei dynnu o afonydd, gan mai libart asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ydi hwnnw.

“Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd statudol i warchod a gwella harddwch naturiol a bywyd gwyllt yr ardal,” meddai Aled Lloyd, Pennaeth Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth, Parc Cenedlaethol Eryri. “O ganlyniad, bydd pob cais cynllunio yn cael ei asesu yn drwyadl ac o fewn ei gyd-destun unigryw.

“Wrth benderfynu ar gais am gynllun hydro bydd yr Awdurdod yn ystyried pob sylw a dderbynnir yn ystod y broses ymgynghori ac mae sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr yr Awdurdod yn rhan annatod o’r broses honno. Ystyrir gwerth ecolegol y dŵr, y cynefinoedd o amgylch y dŵr, yn ogystal â choed ac unrhyw archeoleg sy’n yr ardal.”

Yn ôl datganiad Parc Cenedlaethol Eryri, fe dderbyniwyd 130 o geisiadau am gynlluniau dwr dros y pum mlynedd diwetha’, ac fe roddwyd caniatad i 80% ohonyn nhw. Dim ond un cynllun hydro sy’n cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar hyn o bryd.

“Mae gennym bolisïau pendant i’w dilyn er mwyn ein galluogi i benderfynu ar geisiadau sy’n defnyddio ynni glân, naturiol a chynaladwy, a’r hawl i osod amodau caeth ar ymgeisydd er mwyn atal unrhyw ddifrod yn ystod y gwaith adeiladu,” meddai Aled Lloyd wedyn.

“Mater i Gyfoeth Naturiol Cymru, nid yr Awdurdod hwn, yw faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu o’r afonydd a mater i’r corff hwnnw hefyd yw unrhyw dor amod ar drwydded yr ymgeisydd.”