Mae ymgyrch newydd yn cael ei lansio heddiw i daclo beicwyr môr (jet skis) sy’n aflonyddu bywyd gwyllt y môr oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Bwriad Ymgyrch Neifion Heddlu’r Gogledd yw ei gwneud yn haws i bobol roi gwybod i’r awdurdodau os ydyn nhw’n amau bod unrhyw aflonyddu o’r fath yn digwydd.

Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio ym Mhen Llŷn, yn dilyn adroddiadau bod beicwyr môr wedi bod yn poeni dolffiniaid oddi ar arfordir Abersoch a Thywyn ddechrau’r flwyddyn.

Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru fydd yn arwain yr ymgyrch, ac mae wedi’i gefnogi gan yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts.

“Heddiw rydym yn lansio Ymgyrch Neifion i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol ar ein harfordir. Bydd Ymgyrch Neifion yn weithredol trwy gydol yr haf,” meddai’r Rhingyll Rob Taylor.

“Mae arfordir gogledd Cymru yn cynnal cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig, felly rydym yn annog perchnogion cychod a beicwyr môr i barchu’r amgylchedd yma bob tro.”

“Angen dwyn pobol i gyfrif”

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae pobol yn barod i roi gwybod i’r heddlu pan fydd achosion o’r fath yn digwydd ond bod “peth dryswch ynglŷn â sut a phwy i’w hysbysu.”

“Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr beiciau môr a chychod yn cydymffurfio â rheolau’r Côd Ymddygiad Morwrol ond mae’r rhai sy’n fwriadol aflonyddu a phoeni bywyd gwyllt y môr angen eu dwyn i gyfrif,” meddai.

“Yn ddiweddar mae sawl adroddiad wedi bod o ddefnyddwyr beiciau môr yn aflonyddu dolffiniaid oddi ar arfordir gogledd Cymru. Yr hyn sy’n amlwg yw bod y cyhoedd yn barod iawn i adrodd hyn i’r awdurdodau ond mae peth dryswch ynglŷn â sut a phwy i’w hysbysu.”

“Bwriad yr ymgyrch yma yw hyrwyddo defnydd cyfrifol o gychod a beiciau môr a darparu’r cyhoedd â’r wybodaeth briodol er mwyn hysbysu’r awdurdodau o unrhyw weithred anghyfreithlon.”