Mae AS o Gymru’n arwain dadl heddiw i alw am osod isafswm pris ar alcohol.

Fe fydd Nick Smith, Aelod Seneddol Blaenau Gwent, yn dweud nad yw cynlluniau’r Llywodraeth yn ddigon da.

Maen nhw’n bwriadu creu rheolau sy’n gwahardd gwerthu diodydd alcoholaidd am bris is na gwerth y dreth a’r Dreth ar Werth arnyn nhw.

Mae Nick Smith wedi ennill yr hawl i gael dadl awr a hanner yn Westminster Hall – neuadd drafod y Senedd – y bore yma ac fe fydd yn galw am isafswm pris o 50 ceiniog ar gyfer pob uned o alcohol.

‘Help i’r tafarndai’

Fe fydd AS Arfon, Hywel Williams, hefyd yn cefnogi’r alwad gan ddweud bod y Cynulliad yng Nghymru eisoes o blaid mesur o’r fath a bod angen i Lywodraeth Prydain weithredu.

“Yng Nghymru, byddai isafswm pris yn helpu ein diwydiant tafarndai sydd dan straen, gan y byddai’r effaith yn cael ei deimlo fwy ar archfarchnadoedd,” meddai.

“Dywed yr arbenigwyr y byddai hefyd yn annog pobl i brynu alcohol gwannach – trwy godi pris alcohol rhad ond cryf, byddai’n helpu i atal yfed ar sbri.”