Mae miloedd o weithwyr siopau Wilko wedi pleidleisio tros streicio, wedi dadl tros system rota newydd.

Mae disgwyl i oddeutu 1,600 o aelodau undeb y GMB mewn canolfannau dosbarthu yn Magwyr ger Casnewydd ac yn Worksop yn Swydd Nottingham, adael eu gwaith, gan honni eu bod yn cael eu gorfodi i weithio ar benwythnosau.

Yn ôl un o swyddogion GMB Nicola Savage mae’r system rota newydd yn greulon. “Mae’n ein haelodau yn teimlo eu bod wedi cael eu cornelu, a streicio yw’r unig opsiwn sydd ganddynt ar ôl.”

Dyw’r undeb ddim eto wedi cyhoeddi dyddiadau’r gweithredu diwydiannol.