Mae gwerth y bunt wedi disgyn i’w chyfradd isaf yn erbyn y ddoler mewn tair blynedd – a hynny, meddai arbenigwyr arian, oherwydd cythrwfl Brexit.

Fe syrthiodd o dan $1.20 am y tro cyntaf ers Hydref 2016 ac mae hi’n werth llai na €1.10.

Mae Aelodau Seneddol heddiw yn trafod deddfwriaeth a allai rwystro Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31.

Mi fyddai’r ddeddfwriaeth yn gorfodi’r Prif Weinidog i ofyn i Brexit gael ei oedi tan Ionawr 31, oni bai fod Aelodau Seneddol wedi pledleisio ar gytundeb newydd, neu wedi pleidleisio o blaid gadael heb gytundeb erbyn Hydref 19.