Byddai ‘dim cytundeb’ ar Brexit yn “hunllefus” i fusnesau a diwydiannau yng Nghymru, yn ôl llefarydd ar ran CBI Cymru ar ôl i gytundeb Brexit y Llywodraeth gael ei chwlau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Er nad oedd y cytundeb “ddim yn dda iawn” yn ôl Ann Beynon o CBI Cymru, roedd yn well “nag argyfwng y dewis arall”, meddai.

“Mae’r ofn mor ddwfn ynglŷn â ‘dim cytundeb’, byddai’n well cael y cytundeb yma na dim byd,” meddai wrth golwg360 wrth ymateb i’r bleidlais o 432- 202 yn erbyn cytundeb Theresa May.

“Gan fod y cytundeb yma wedi cael ei wrthod, bydd rhaid dod o hyd i ryw fath o ateb trwy fod pobol yn dod at ei gilydd.”

Niwed i’r economi – ‘yr effaith i’w deimlo’n barod’

Mae Ann Beynon hefyd yn dweud bod yr ansicrwydd ynghylch ‘dim cytundeb’ eisoes yn cael ei deimlo yng Nghymru, wrth i “synau amheus” ddod o du cyflogwyr mawr yng Nghymru.

“Yr hyn nad y di pobol ddim yn sylweddoli, efallai, yw bod rhai cwmnïau eisoes wedi symud peth o’u staff allan o Gymru,” meddai. “Maen nhw eisoes wedi penderfynu peidio buddsoddi.

“Mae’r niwed sydd wedi cael ei greu i’r economi wedi dechrau digwydd ers misoedd… Mae peidio cael unrhyw fath o gytundeb yn ychwanegu at yr ansicrwydd yma. Mae’n mynd i wneud unrhyw fath o drafodaethau masnachu bron yn amhosib.”