Mae sengl Nadolig Lowri Evans yn galw arnom i dreulio amser gyda phobol, yn hytrach na gwario ein harian arnyn nhw.

Yr arbenigwr arian, Martin Lewis, sydd wedi ysbrydoli pedwerydd can Nadoligaidd y gantores, sy’n cario neges gref.

Gyda’r straen yn dangos ar ddyled yn codi yn ystod adeg y Nadolig mae hi’n galw arnom i beidio cael ein hamsugno i’r duedd o wario pres yn ormodol, ac yn  hytrach meddwl am beth sy’n wirioneddol bwysig yn ystod yr Ŵyl.

‘Amser Dwl y Flwyddyn’ yw enw’r gan sy’n adlewyrchu cred Lowri Evans bod gwariant y Nadolig “dros ben llestri.”

Ysbrydoliaeth

“Nes i weld rhaglen ar y teledu gan yr arbenigwr arbed pres Martin Lewis a dyna wnaeth fy ysbrydoli,” meddai Lowri Evans wrth golwg360.

“Roedd e’n siarad amdano sut mae pobol yn gwario dros y Nadolig – sut mae pobol yn teimlo fod rhaid prynu anrhegion, a bod rhaid prynu anrhegion yn ôl i bobol

“Mae pobol yn cael panics mawr bod rhai pobol yn prynu anrhegion i bobol tydi nhw ddim eisiau. Mae pobol jyst yn neud e oherwydd y pwysau – ac mae pobol yn meddwl gormod am faint maen nhw’n gwario.”

I’r gantores o Sir Benfro, mae’r Nadolig ynglŷn â “treulio amser gyda theulu a ffrindiau a bod gyda phobol sy’n bwysig yn lle hala’r arian mawr.”

Cafodd y gan ei recordio gan ei label ei hun – Recordiau Shimi, mewn stiwdio yn ei thŷ ei hun.

Lee Mason wnaeth y cynhyrchu, ynghyd a chwarae’r bas, y gitâr a’r allweddellau.

Dyma Lowri Evans yn trafod neges ‘Amser Dwl y Flwyddyn’: