Mae cwmni Sky wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n parhau i noddi tîm seiclo’r Cymro, Dave Brailsford – a’r tîm y mae Geraint Thomas a’i gyd-Gymro Owain Doull yn ei gynrychioli.

Fe fydd y cyfnod noddi’n dod i ben y flwyddyn nesaf ar ôl mwy na degawd o gydweithio, a thymor 2019 fydd eu tymor olaf.

Ond mae disgwyl i’r tîm barhau pe bai noddwr newydd yn dod i’r fei erbyn 2020.

‘Meddwl agored am y dyfodol’

“Tra bydd Sky yn symud yn ei flaen ar ddiwedd y flwyddyn, mae’r tîm yn cadw meddwl agored ynghylch y dyfodol a’r potensial i gydweithio gyda phartner newydd, pe bai’r cyfle cywir yn dod i’r amlwg,” meddai Dave Brailsford, pennaeth y tîm.

“Am y tro, hoffwn ddiolch i holl gystadleuwyr tîm Sky, staff y presennol a’r gorffennol ac yn anad neb, y cefnogwyr sydd wedi ein cefnogi ni ar yr antur hon.”

Mae’r tîm wedi ennill 322 o rasus, gan gynnwys wyth Taith Fawr, 52 o rasus cymal a 25 o rasus undydd ers i’r bartneriaeth ddechrau yn 2010.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd Bradley Wiggins Tour de France, y cystadleuydd cyntaf erioed o wledydd Prydain i’w hennill. Cipiodd Chris Froome ei deitl y flwyddyn ganlynol, ac mae wedi ennill y ras dair gwaith ers hynny.

Chris Froome hefyd oedd y cystadleuydd cyntaf ers 30 o flynyddoedd i fod yn ddeilydd tri chrys Taith Fawr ar yr un pryd.

Eleni, Geraint Thomas oedd y Cymro cyntaf erioed – a’r trydydd cystadleuydd o wledydd Prydain – i ennill Tour de France. Dyma chweched buddugoliaeth y tîm yn y ras mewn saith mlynedd.