Mae’r pêl-droediwr, James McClean, wedi talu i grwp o bobol ddigartref o’i dref enedigol i gael aros mewn gwesty.

Mae asgellwr 29 oed Stoke City a Gweriniaeth Iwerddon wedi talu am bedair ystafell am bedair noson yn Derry, yn cynnwys prydau bwyd.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r pêl-droediwr ddefnyddio’i gyflog sylweddol i wneud bywyd yn haws i bobol eraill. Fe dalodd gostau cynhebrwng bachgen bach o Derry a gafodd ei ladd; ac mae wedi hyfforddi gyda’r Oxford Bulls, tîm o bel-droedwyr â Syndrom Down, hefyd o Derry.

Fe dalodd James McClean am yr ystafelloedd mewn gwesty o ddydd Sul i ddydd Mercher, ac fe dderbyniodd pedwar o bobol ddigartref y cynnig.

“Mae James wastad yn chwilio am ffyrdd o helpu y rheiny sy’n wan neu’n anghenus,” meddai tad y pêl-droediwr, Patrick McClean.

Fe gafodd ei eni a’i fagu ar stad Creggan, lle’r oedd cartrefi chwech o’r rheiny a laddwyd ar Bloody Sunday yn 1972.