Mae’r Bathdy Brenhinol wedi gwrthod cynhyrchu darn arian arbennig i ddathlu bywyd a gwaith Roald Dahl – a hynny oherwydd ei fod yn arddel agweddau gwrth-Semitig.

Mae cofnodion wedi dod i’r fei o drafodaethau a gynhaliwyd tua 2014, ynglyn â nodi canmlwyddiant geni’r awdur yn Llandaf, Caerdydd yn 1916. Mewnfudwyr o Norwy oedd ei rieni.

Mae’r cofnodion yn dangos yn glir fod yna wrthwynebiad i greu darn arian – er bod y nofelydd wedi gwerthu dros 250 miliwn o gopïau o’i lyfrau ledled y byd, a’i fod yn cael ei restru ymhlith awduron enwocaf Cymru.

Doedd yr awdur ei hun ddim yn gwadu’r cyhuddiad o ddrwglicio’r Iddewon. Mewn cyfweliad i gylchgrawn The New Statesman, fe nododd unwaith ei fod yn credu bod yna “ran fach o’r bersonoliaeth Iddewig sy’n pryfocio ac yn ennyn gelyniaeth… wedi’r cwbwl, wnaeth diawl fel Hitler ddim pigo arnyn nhw am ddim rheswm”.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 1990, fe aeth cyfeillion iddo ymhellach, yn honni bod gan Roald Dahl, yntau “ochr dywyll” i’w bersonoliaeth a oedd yn brigo i’r wyneb yn ei lyfrau i blant. Fe nododd ei gyn-wraig ei fod yn “diraddio merched” ac yn wr anffyddlon.