Mae’r diweddar ganwr, Michael Jackson, ymhlith y meirw sydd wedi ennill y mwyaf o arian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan sicrhau elw o £313m.

Dyma’r chweched blynedd yn olynol i’r Brenin Pop, a fu farw yn 2009 yn hanner cant, i gyrraedd brig y rhestr yng nghylchgrawn Forbes o’r meirw cyfoethocaf.

Mae’r ffigwr diweddaraf yn golygu bod Michael Jackson wedi gwneud elw o £1.8bn yn y naw mlynedd ers ei farwolaeth.

Mae’n debyg mai’r prif ffactorau dros y cynnydd eleni yw gwerthiant ei gyfran yn y cwmni, EMI Music Publishing; y rhaglen deledu, Michael Jackson’s Hallowen, a chytundeb record newydd gyda Sony.

Meirw eraill

Yn ail i Michael Jackson ar y rhestr yw’r Brenin Roc a Rôl, Elvis Presley, a fu farw yn 1977 yn 42 oed.

Mae’r canwr enwog wedi llwyddo i godi £31m dros y flwyddyn ddiwethaf trwy gyfrwng gwerthiant cerddoriaeth ac ymweliadau â’i hen gartref yn Graceland.

Ymhlith y meirw cyfoethog eraill mae’r golffiwr Arnold Palmer, sy’n drydydd gyda £27m; y cartwnydd, Charles Chulz, sy’n bedwerydd gyda £26m, a’r canwr Bob Marley, a fu farw yn 1981, sydd yn y bumed safle gyda £18m.

Yr awdur Dr Seuss sy’n chweched gyda £12m, tra bo sylfaenydd Playboy, Hugh Hefner, a fu farw y llynedd yn 91, yn seithfed gyda £11.7m.

Mae’r actores Marilyn Monroe, a fu farw yn 1962 yn 56 oed, yn yr wythfed safle gydag elw o £11m.