Fe fydd Caerdydd yn darganfod heddiw a fydd yn un o ganolfannau newydd Channel 4.

Mae prifddinas Cymru’n un o’r dinasoedd sydd dan ystyriaeth, ynghyd â Glasgow a Bryste.

Daw’r cyhoeddiad ar y diwrnod y bydd y sianel hefyd yn cyhoeddi ym mle fydd ei phencadlys newydd y tu allan i Lundain – un ai Leeds, Manceinion neu Birmingham.

Ond bydd pencadlys y sianel yn Llundain yn dal yn weithredol hefyd.

Mae’r sianel wedi penderfynu symud staff o Lundain i dair canolfan arall, lle bydd 300 o swyddi’n cael eu gwarchod ym meysydd comisiynu, cynhyrchu a chynnwys digidol.

Comisiynu fydd prif bwyslais y canolfannau newydd.