Mae’r gyfradd chwyddiant wedi gostwng ychydig – ac effaith y “bunt Brexit” sy’n cael ei ystyried yn gyfrifol am hynny.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 2.7% y mis diwethaf, i lawr o 3% ym mis Ionawr.

Mae’n is na’r 2.8% oedd wedi’i ragweld gan economegwyr, a dyma’r gostyngiad cyntaf yn y gyfradd chwyddiant ers mis Rhagfyr 2o17.

Gostyngodd prisiau petrol 0.2c y litr i 120.8c y litr, tra bod disel wedi llithro o 0.1c y litr i 124.4c y litr.