Gwerthu swyddfeydd yn Llanbed

Diweddarwyd  
Canolfan Dulais, Heol Pontfaen, Llanbed

Swyddfeydd yn y fantol yng Nghanolfan Dulais, Llanbedr Pont Steffan

Llun: golwg360

Mae o leiaf bump o gwmnïau a sefydliadau yng Ngheredigion yn wynebu trafferthion ar ôl cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i swyddfeydd newydd o fewn pedwar mis.

Ar hyn o bryd maen nhw yn llogi swyddfeydd gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, sydd am werthu’r adeilad sy’n eu cartrefu.

Mae dau o’r mudiadau yno wedi dweud mai dim ond dwy flynedd yn ôl yr oedden nhw wedi symud i’r adeiladau yng Nghanolfan Dulais.

Mae’r Brifysgol hefyd yn ceisio gwerthu adeilad sylweddol yng nghanol y dref – roedd hwnnw wedi bod yn wag ers tro.

‘Ansicrwydd yn bryder’

 “Mae’r ansicrwydd hwn yn bryder mawr i ni gyd,” meddai Cen Llwyd, cadeirydd elusen HomeStart yng Ngheredigion sy’n cefnogi teuluoedd gydag anghenion.

Mae’n dweud eu bod wedi cael rhybudd i adael eu swyddfa erbyn diwrnod ola’ mis Chwefror y flwyddyn nesa’.

Mae “cryn anniddigrwydd” yn nhref Llanbed, meddai, am fod amryw o adeiladau’r Brifysgol “yn wag a’u cyflwr yn gwaethygu”.

Mae cynrychiolydd mudiad arall ar y safle yn dweud y bydd dod o hyd i le arall yn “ben tost” oherwydd prinder swyddfeydd da am bris rhesymol.

“Y broblem fwya’ i ni fydd newid cyfeiriad, achos ni’n delio â phasborts ceffylau drwy Brydain,” meddai Gwenan Thomas, cofrestrydd Cymdeithas Ceffylau Harnes a Throtian y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae’n dweud mai newydd symud i Lanbed o Landrindod y mae’r gymdeithas ddwy flynedd yn ôl a “doedd dim arwydd o’r ansicrwydd bryd hynny.”

Ymateb y Brifysgol

 Mewn datganiad mae llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn dweud eu bod wedi penderfynu gwerthu Canolfan Dulais ar ôl arolygu’r ystâd.

“Mae ein strategaeth yn cynnwys rhyddhau rhai o adeiladau’r Brifysgol er mwyn buddsoddi yn yr ystâd a phrofiad y myfyrwyr ar ein campysau,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r Brifysgol wedi adnabod Canolfan Dulais fel un o’r adeiladau a fydd yn cael ei gwerthu yn Llanbed.

“Daeth les y tenantiaid i ben ac yn sgil hynny ysgrifennwyd atynt er mwyn eu hatgoffa a’u hysbysu na fyddai’r Brifysgol yn adnewyddu’r prif les.

“Er mwyn caniatáu amser iddynt wneud trefniadau eraill cynigiwyd cytundeb tymor byr iddynt a, lle bo hynny’n ymarferol, mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda rhai o’r tenantiaid i adnabod llety amgen ar eu cyfer”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd