Un o siopau Goldsmiths
Mae’r grwp y tu ôl i frand gemwyr Goldsmiths ar werth – ac mae disgwyl i’r perchennog nesa’ dalu £200m amdano.

Mae’r grwp mawr Aurum – sy’n cynhyrchu oriorau a gemwaith ac sydd hefyd yn rhedeg cwmni Watches of Switzerland a Mappin & Webb – wedi gofyn i gwmni Cavendish Corporate Finance i gymryd gofal o’r gwerthiant.

Mae yna 165 o siopau yn rhan o’r grwp, ac fe wnaeth £326m o arian refeniw yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Ionawr 30.