Mae cwmni ceir Vauxhall wedi cyhoeddi bod 400 o swyddi’n cael eu colli o’u ffatri yn Sir Gaer cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r Astra wedi cael ei wneud ar y safle yn Ellesmere Port ers 1979.

Ond maen nhw’n beio “marchnad Ewropeaidd heriol” am y penderfyniad, yn ogystal â llai o alw am geir i deithwyr.

Dywedodd y cwmni fod rhaglen diswyddiadau gwirfoddol yn ei lle.