Mae popty o Faesteg wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu buddsoddi £700,000 ar gyfleusterau cynhyrchu newydd, gan greu deg swydd newydd yn yr ardal. 

Bydd uned newydd Talgarth Bakery yn cael ei sefydlu ym Mharc Diwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, ac yn eu galluogi i gynyddu eu cynhyrchiant.

Bydd y cwmni yn derbyn benthyciad £195,000 gan Lywodraeth Cymru, ac wedi i’r uned gael ei sefydlu mi fydd cyfanswm nifer gweithwyr y popty yn cynyddu i 90.

Fe gafodd Talgarth Bakery ei sefydlu ym 1904, a bellach mae’r cwmni yn cyflenwi bara i gwmnïau mawr sy’n cynnwys archfarchnad Morrisons a dosbarthwyr bwyd Booker.