Mae llety gwely a brecwast yn Eryri bellach yn derbyn taliadau trwy arian cyfrifiadurol ‘bitcoin’ – a’r gobaith yw y bydd hynny’n gwneud pethau’n haws i’r cwsmeriaid ac i’r perchnogion.

Mae Bryn Eisteddfod ym mhentref Clynnog Fawr yn derbyn taliadau bitcoin ers dydd Llun yr wythnos hon.

“Mae’r twristiaid wedi mynd. Mae gynnon ni gyfrif bitcoins. Pam, felly, ddim cynnig i bobol ei ddefnyddio fo?” meddai Meirion MacIntyre Huws, sy’n rhedeg y gwesty gyda’i wraig, Karen.

“Hwyrach fydd hi’n hir iawn cyn i bobol wneud, ond be oeddan ni isio’i wneud oedd dangos i’r byd ein bod ni, ym Mryn Eisteddfod, yn derbyn cash, siec, cerdyn, Apple a rwan hefyd rydan ni’n teimlo ein bod ni ar flaen y gad yn derbyn bitcoins.”

Beth yw bitcoins?

Dull o dalu rhwng dau berson heb fod angen ‘dyn yn y canol’ yw bitcoins.

“Yn y byd i gyd, mae yna hyn a hyn o bitcoins,” meddai Mei Mac. “Tydyn nhw ddim yn bodoli fel coins eu hunain. Pethau ar gyfrifiadur ydyn nhw. Mae sawl economi crypto-currency i gael. Bitcoin oedd yr un cyntaf gafodd ei ddefnyddio…

“Mi gawson nhw eu defnyddio gyntaf i bobol gael prynu cyffuriau ac arfau ar y we dywyll. Caewyd hynny i lawr, ond oedd y currency ei hun wedi cario ymlaen.

“Mae o ar gyfer pobol sydd isio rhoi arian i bobol eraill heb fod dyn yn y canol, a heb fod y banc yn cymryd ‘cut’ – currency sydd ar wahân i lywodraeth ac ar wahân i ymyrraeth banciau felly mae’n costio llawer iawn llai i roi arian i rywun.

“Fedr rhywun ddod fan hyn a gofyn, ‘Ga i dalu am lety efo bitcoin?’ Cewch, tad! Dw i’n estyn fy iPhone, yn dangos iddyn nhw y QR code ar fy ffôn i, maen nhw’n sganio hwnnw efo iPhone, yn gwthio botwm ac mae hyn a hyn o werth arian mewn bitcoins yn cyrraedd fy nghyfrif i.”

Manteision

“Fel efo’r cerdyn credyd, mae’n costio hyn a hyn i ni dderbyn pethau,” meddai wedyn.

“Mae’r banc yn cymryd hyn a hyn o arian bob tro ydan ni’n rhoi arian i mewn drwy gerdyn credyd, ond mae’r taliad yn llai i’r banc drwy bitcoin, felly mae busnesau’n gallu elwa.

“Ddaru ni benderfynu ei roi o ar Facebook ein bod ni’n derbyn bitcoins ac os ydi pobol am dalu am ddiodydd neu lety yma, mi wnawn ni dderbyn bitcoins.”