Yr hen ddarn punt (Llun: PA)
Bydd ambell siop a banc yn parhau i dderbyn yr hen ddarn punt wedi iddo gael ei dynnu allan o gylchrediad yr wythnos nesaf.

O ganol nos Hydref 15, mi fydd y bunt gron yn colli ei statws cyfreithiol gan olygu na fydd modd derbyn y geiniog fel arian newid, ac mi fydd busnesau yn medru gwrthod derbyn yr hen £1.

Er hynny, mae cwmni Poundland eisoes wedi dweud y bydd dros 850 o’u siopau ledled y Deyrnas Unedig yn parhau i dderbyn y darnau punt tan Hydref 31.

Hefyd mae’r Post Brenhinol, banciau RBS/Natwest, Santander, Cymdeithas Adeiladu Nationwide, a Grŵp Bancio Lloyds, wedi nodi y byddan nhw’n parhau i dderbyn yr hen bunt wedi Hydref 15.

Dyddiad terfyn

Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad terfyn mae 500 miliwn o bunnoedd crwn o hyd mewn cylchrediad ond mae 1.2 biliwn wedi’u dychwelyd o fewn y chwe mis diwethaf.

“Mae’r bunt gron wedi bod mewn cylchrediad am dros 30 mlynedd,” meddai Prif Weithredwr a Dirprwy Feistr y Bathdy Brenhinol, Adam Lawrence.

“Ond, wrth agosáu at y dyddiad terfyn, hoffwn annog y cyhoedd i ddod o hyd i unrhyw ddarnau sydd ganddyn nhw ar ôl, a’u defnyddio nhw.”