Mae’r BBC wedi gwadu gwahaniaethu yn erbyn menywod, ond wedi cadarnhau bod gwahaniaeth mawr rhwng cyflogau dynion a menywod sy’n gweithio i’r Gorfforaeth.

Yn ôl ystadegau, mae menywod yn ennill 9.3% yn llai ar gyfartaledd na dynion – sydd yn cyfateb i ychydig dros hanner y cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi yn dilyn arolwg o gyflogau’r Gorfforaeth gan PWC a’r cwmni cyfreithiol Eversheds o dan oruchwyliaeth y barnwr Syr Patrick Elias.

Dywed Syr Patrick Elias nad oes tystiolaeth fod “gwahaniaethu systemig yn erbyn menywod” o fewn y BBC.

Fe fu’n rhaid i’r BBC gyhoeddi manylion cyflogau’r staff sy’n derbyn dros £150,000 y flwyddyn ym mis Gorffennaf, ac fe arweiniodd hynny at bryderon yn y gwahaniaeth rhwng dynion a menywod.

Ond dyw’r arolwg ddim yn cynnwys y staff hynny sy’n cael eu cyfrif yn ‘dalent y BBC’ – cyflwynwyr neu ohebwyr, ac mae disgwyl arolwg ohonyn nhw erbyn diwedd y flwyddyn.

Dyw e ddim ychwaith yn cynnwys rheolwyr uwch, a hynny am fod gofyn am sgiliau gwahanol, yn ôl y BBC.

Yn ôl y gyfraith, fe fydd rhaid i gwmnïau â mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi arolwg blynyddol o’r bwlch cyflogau, ac mae disgwyl yr un nesaf ymhen chwe mis.

Camau’r BBC

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC fod cynlluniau ar y gweill i roi terfyn ar bwyllgorau cyfweld sy’n cynnwys dynion neu fenywod yn unig, sicrhau bod cyngor ar gael am gyflogau, a bod adolygiadau o gyflogau’n digwydd bob chwe mis.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Syr Tony Hall fod “tegwch o ran cyflogau’n hanfodol”, a bod addewid i gau’r bwlch cyflogau erbyn 2020.

Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ wedi dweud bod y bwlch “yn dal yn rhy fawr”.

Ystadegau

Yn ôl yr arolwg:

  • Mae 48% o staff y BBC yn fenywod
  • Mae 42% o reolwyr yn fenywod
  • Mae 5% o staff y BBC o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
  • Mae 3% o reolwyr y BBC o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
  • Mae gan 2% o staff y BBC anabledd
  • Mae gan 6% o reolwyr y BBC anabledd