Tren Arriva - deiliaid y drwydded ar hyn o bryd (Oxyman CCA2.0)
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw gard ar bob trên ar reilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro de Cymru.

Hynny wrth i bedwar cwmni gael gwahoddiad ffurfiol i wneud tendrau ariannol i gynnal y prif wasanaeth.

Y bwriad i gael gwared ar wasanaeth gard sydd wedi arwain at anghydfod mawr mewn rhannau o Loegr ond, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, roedd staff yn ganolog i’r cynlluniau.

Fe ddywedodd hefyd mai mwy, nid llai, o staff fyddai yna o dan y drefn newydd wrth i’r galw am wasanaethau trenau gynyddu ac mae wedi addo y bydd y rhan fwya’ o’r staff cynnal a chadw yng Nghymru.

‘Angenrheidiol’

Roedd 90% o bobol a ymatebodd i holiadur am y gwasanaethau yng Nghymru wedi dweud bod cael gard naill ai’n “angenrheidiol” neu’n “bwysig”.

Roedd mudiad Age Cymru hefyd wedi pwyso am addewid o’r fath, gan ddweud bod gan 20% o bobol Cymru anabledd o ryw fath.

Fe ddaeth yr addewidion ar ôl trafodaethau gydag undebau ac fe ddywedodd Gweinidog Economi’r Cabinet, Ken Skates, eu bod eisiau i’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru fod yn esiampl o bartneriaeth gymdeithasol gyda’r undebau llafur.

Dewis cwmni

Mae’r broses derfynol o ystyried cynigion am y drwydded i gynnal gwasanaeth Cymru a’r Gororau wedi dechrau.

Mae pedwar cwmni wedi cael gwahoddiad, gan gynnwys Arriva sy’n cynnal y gwasanaeth ar hyn o bryd. Y tri arall yw Abellio Rail Cymru, Keolis-Amey ac MTR Corporation (Cymru).

Y disgwyl yw y bydd y drwydded newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2018.