Gall Cyngor Caerdydd wynebu dirwyon gwerth £21 miliwn os nad yw’n cynyddu’r gwastraff mae’n ailgylchu, yn ôl adroddiad.

Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Craffu Amgylcheddol y cyngor, bydd yn rhaid ailgylchu 32,000 tunnell  ychwanegol o wastraff bob blwyddyn er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu 2020.

Llywodraeth Cymru wnaeth osod y targedau, sydd yn golygu bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau eu bod yn ailgylchu o leiaf 64% o’u gwastraff erbyn 2019-2010.

Bydd unrhyw awdurdod sydd yn methu’r targed yn wynebu dirwy o £200 am bob tunnell.

Risg “anferthol”

Er bod Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gwrdd â nifer o’r targedau yn y gorffennol mae’r pwyllgor yn nodi bod yn “rhaid canolbwyntio’n gyson” er mwyn cwrdd â thargedau’r dyfodol.

“Mae’r risg ariannol o fethu’r targedau yn medru bod yn anferthol,” meddai’r pwyllgor. “Er enghraifft byddai methu gan 4,000 tunnell yn gyfwerth â dirwy o dros £800,000.”

“Os nad oes newidiadau pellach yn cael eu cyflwyno i ddarpariaeth gwasanaethau ailgylchu’r cyngor, gall y dirwyon rhwng nawr a 2020 fod dros £21 miliwn.”

“Sicrhau buddion sylweddol”

“Mae’r Cyngor yn cydweithio â phum awdurdod lleol i drin gwastraff na ellir ei ailgylchu i greu ynni gwyrdd drwy Gyfleuster Adfer Ynni,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau buddion sylweddol, oherwydd drwy gydweithio ar sail arbedion maint mae’r gost o drin y gwastraff hwn yn is i bob partner na phetai nhw’n gweithio’n unigol.

“Gan ddefnyddio’r un rhesymeg, mae Caerdydd ar hyn o bryd yn cynnig cynnal astudiaeth ddichonoldeb i ystyried y posibilrwydd o sefydlu partneriaeth ar gyfer deunyddiau ailgylchu sych ond nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto.”