Carafanau (Terry Roberts CCA 2.0)
Mae nifer y bobol sy’n treulio gwyliau dros nos yng Nghymru wedi codi – ond mae’r cynnydd mwya’ mewn carafanio a gwersylla.

O flwyddyn i flwyddyn rhwng y llynedd ac eleni mae’r defnydd o garafanau statig a’u tebyg wedi codi 12% er fod y Llywodraeth yn y gorffennol wedi ceisio rhoi mwy o bwyslais ar wely a brecwast a gwestai.

Ym mhob sector llety, mae’r ffigurau wedi codi:

  • 1% mewn gwestai
  • 2% mewn busnesau gwely a brecwast
  • 7% mewn carafanau teithiol
  • 4% mewn bythynnod gwyliau
  • 3% mewn hosteli.

Gwerth y bunt yn cyfrannu

Yn ôl Croeso Cymru, sy’n casglu’r ystadegau, un o’r rhesymau posib yw’r cwymp yng ngwerth y bunt – mae hynny, medden nhw, yn annog rhagor o ymwelwyr tramor i ddod i Gymru a rhagor o ymwelwyr o wledydd Prydain i beidio â mynd dramor.

“Mewn marchnad hynod o gystadleuol, mae’r ffigurau diweddara’ yn dangos darlun cryf i dwristiaeth yng Nghymru ac yn parhau i adlewyrchu llwyddiant y ddwy flynedd ddiwetha’,” meddai Ken Skates yr Ysgrifennydd Cabinet tros yr Economi ac Isadeiledd.

Yn y gorffennol, roedd rhagflaenydd Croeso Cymru, y Bwrdd Croeso, yn rhoi mwy o bwyslais ar lety gyda gwasanaeth – gwestai a gwely a brecwast – yn hytrach na charafanau, am fod hynny’n golygu mwy o wario gan yr ymwelwyr.