Fe fydd staff ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru dechrau wyth diwrnod o streiciau heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25).

Maen nhw ymhlith 60 o brifysgolion ledled gwledydd Prydain fydd yn gweithredu’n ddiwydiannol tros bensiynau, tâl ac amodau gwaith.

Yn ôl undeb UCU, sy’n gofalu am staff prifysgolion a cholegau, maen nhw’n bwriadu dod â phrifysgolion i stop.

Fe fydd staff yn ymgynnull ger canolfan ddinesig Caerdydd ar ddiwrnod cynta’r streic, a byddan nhw’n cael cwmni’r aelod seneddol Llafur Jo Stevens a Shavanah Taj, is-lywydd TUC Cymru.

Mae disgwyl rhagor o streiciau yn y flwyddyn newydd pe na bai ymateb digonol yr wythnos hon.

Dyma’r ail waith mewn dwy flynedd iddyn nhw gynnal streiciau, ar ôl iddyn nhw lwyddo i warchod eu pensiynau’r llynedd.

Y tro hwn, maen nhw’n gwrthwynebu codi cyfraniadau gweithwyr i bensiynau, gan ofidio na fydd yr un mor hawdd i bobol newydd dalu i mewn i’r system, ac na fydd y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Maen nhw’n nodi bod tâl wedi gostwng 20% mewn gwerth dros gyfnod o ddeng mlynedd, bod ganddyn nhw fwy o waith i’w wneud, bod llwyth gwaith yn rhoi pwysau ar eu hiechyd meddwl, a bod yna fwlch cyflog sylweddol o 15%.

‘Crynhoad dyrys o broblemau’

“Mae staff mewn prifysgolion yn wynebu crynhoad dyrys o broblemau sy’n golygu nad ydym yn gallu gwneud ein swyddi’n effeithiol mwyach tra’n parhau i fod yn iach,” meddai Andy Williams, llefarydd UCU Caerdydd.

“Dewis olaf bob amser yw streicio, ond gyda’r ymosodiadau ar ein pensiynau yn parhau – pan mae’n arbenigwyr a chyrff annibynnol wedi cadarnhau bod y cynllun gyda gwarged – nid oes gennym lawer o ddewis ond sefyll gyda’n gilydd a sefyll i fyny dros ein hunain.

“Ac nid dim ond ein hawl i ymddeol gydag urddas sydd yn y fantol y tro hwn.

“Ar ôl blynyddoedd o edrych ar werth gostyngol ein cyflog, cynnydd llwythi gwaith anghynaladwy, lledaeniad ansicrwydd swydd ar ffurf yr economi-gig, a lefelau cywilyddus o anghydraddoldeb cyflog, nid yw’r cyflogwyr wedi gadael unrhyw ddewis inni ond tynnu ein llafur yn ôl a dod â Phrifysgolion i stop.

“Gall prifysgolion bob amser ddod o hyd i arian i dalu am adeiladau crand a thal Is-gangellorion.  Mae angen iddynt fuddsoddi yn y gweithlu hefyd, fel arall ni fydd pobl ag awydd ymuno gyda’r proffesiwn, a bydd y staff presennol yn parhau i adael.

“Mae’r gefnogaeth o fyfyrwyr wedi bod yn wych.  Gorfodir i fyfyrwyr dalu degau o filoedd mewn ffioedd, a theimlwn yn ofnadwy ein bod yn tarfu ar eu dysgu.

“Ond yn lle gweithredu fel cwsmeriaid maent wedi gweithredu fel dinasyddion a chymrodyr.  Mae hynny’n destun cryn falchder inni.

“Oni bai bod y cyflogwyr yn rhoi cynigion ger bron i wella amodau gwaith ein haelodau, dim ond y dechrau bydd y streic yma.  Gall yr anghydfod hwn parhau a pharhau”

‘Sbin a diffyg sylweddol’

“Mae’n syfrdanol bod y cyflogwyr wedi caniatáu i bethau gyrraedd y pwynt yma ac wedi gwneud cyn lleied i osgoi’r anghydfod sydd ar ddod,” meddai Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol yr UCU.

“Yn lle ymgysylltu o ddifri gyda ni am yr amrywiol elfennau wrth galon y streic, rydym wedi gweld sbin a diffyg sylwedd.

“Mae’n ymddangos nad yw prifysgolion wedi dysgu unrhyw beth o flwyddyn ddiwethaf, ac unwaith eto’n dangos diffyg dealltwriaeth o’r dicter ymhlith staff.

“Yn lle gwastraffu amser yn chwarae gemau, byddent yn well eu byd yn gwrando ar bobl fel Anthony Forster, Is-ganghellor Prifysgol Essex, sydd wedi datgan y gall prifysgolion fforddio talu mwy i fynd i’r afael â’r materion hyn.

“Mae’n bryd i arweinwyr prifysgolion ddangos arweinyddiaeth go iawn.”