Mae Hillary Clinton wedi cyfarfod y myfyrwyr cyntaf fydd yn derbyn ysgoloriaethau dan gynllun sydd wedi ei enwi ar ôl y gwleidydd enwog.

Lansiodd Brifysgol Abertawe ‘Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton’ mewn partneriaeth â chwmni teledu lloeren Sky yn gynharach eleni.

Bydd pump “unigolyn eithriadol” yn derbyn arian am flwyddyn i astudio cyrsiau ôl-radd yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe.

Bwriad yr ysgoloriaethau yw cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymrwymedig i fynd i’r afael â heriau byd-eang.

Dywedodd Hillary Clinton: “Rydw i wrth fy modd y bydd y bartneriaeth hon rhwng Sky ac Ysgol y Gyfraith Abertawe yn gallu cyflawni rhywbeth gwirioneddol unigryw, mewn modd sy’n cyd-fynd â’r angen brys i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu heddiw.”

Ychwanegodd yr Athro Elwen Evans, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham: “Mae pum ysgolhaig cyntaf y rhaglen Heriau Byd-eang oll yn unigolion eithriadol ac yn hyrwyddwr ymrwymedig dros newid.”

Pwy sy’n cael yr arian?

  • Mae Otgontuya Davaanyam yn gyfreithiwr cymwys 28 oed o Fongolia. Ar hyn o bryd mae’n cyfrannu at y rhaglen fentora Menywod mewn Cyfraith Ryngwladol, a drefnir gan y Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol Americanaidd, ac mae’n gweithio yn intern yn Fifty Eight, sy’n cynnal ymchwil i gadwyni cyflenwi llafur plant a chaethwasiaeth modern. Mae’n gobeithio datblygu ei hymchwil i gaethwasiaeth modern drwy’r rhaglen Heriau Byd-eang, a defnyddio’r sgiliau y bydd yn eu dysgu drwy’r rhaglen i hybu hawliau dynol yn ei mamwlad.

 

  • Mae gan Angharad Devereux, sy’n 26 oed ac a fagwyd yn Abertawe, raddau yn y Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol o Brifysgol Caergrawnt, a gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang o Ysgol Economeg Llundain. Maes ei ffocws ar gyfer y rhaglen Heriau Byd-eang yw diogelu plant rhag niwed ar-lein, ac ar hyn o bryd mae’n cynnal adolygiad o strategaeth i atal radicaleiddio ar-lein gyda chydweithwyr yn Ysgol y Gyfraith.

 

  • Mae Ruwadzano Patience Makumbe yn gyfreithiwr hawliau dynol 27 oed o Simbabwe. Cyn dechrau ar y rhaglen Heriau Byd-eang, hi oedd yr Arbenigwr Ymgyfreithiad Effaith Strategol ar gyfer Fforwm NGO Hawliau Dynol Simbabwe. Fwyaf diweddar, gweithiodd Ruwadzano ar achos mawr yn herio Llywodraeth Simbabwe yn cau’r rhyngrwyd fel toriad ar hawliad digidol a rhyddid mynegiant. Ei ffocws ar gyfer y rhaglen Heriau Byd-eang yw cyfraith hawliau dynol.

 

  • Mae Charlotte Morgan, sy’n 23 oed ac yn dod o Aberdâr, yn raddedig Prifysgol Caerdydd y mae ganddi hanes helaeth o wirfoddoli, ac mae’n cyflawni nifer o rolau gwirfoddol ar hyn o bryd, yn cynnwys Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gan gynnwys cynorthwyo â rhaglenni Siarad Cyhoeddus Ysgolion Cymru a Chynhadledd Ysgolion Model y Cenhedloedd Unedig. Bydd ei hymchwil yn ystod y rhaglen Heriau Byd-eang yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth modern, ac ar ôl cwblhau’r rhaglen mae’n gobeithio gweithio i sefydliad elusennol gyda phwyslais ar faterion byd-eang

 

  • Mae Andrea Stanišić yn gynorthwyydd prosiect 25 oed i’r felin drafod y Ganolfan ar gyfer Democratiaeth a Hawliau Dynol, lle cynhaliodd ymchwil ar faterion yn amrywio o reolaeth y gyfraith, hawliau dynol a chynhwysiad cymdeithasol i integreiddio Ewro-Iwerydd, diogelwch ac amddiffyn. Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n agos gyda Chymdeithas y Bar Unol Daleithiau America ar ei Rhaglen Amddiffynwyr Cyfiawnder, a bwriada barhau â’i hymchwil i hawliau dynol amgylcheddol pan fydd yn dechrau ar y rhaglen Heriau Byd-eang.