Mae cylchgrawn llenyddol gan fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei gyhoeddi ar-lein am y tro cyntaf yn ei hanes.

Cafodd Y Ddraig ei sefydlu yn 2011, ac mae’n cael ei baratoi yn flynyddol gan fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Cymraeg Proffesiynol.

Mae’r wefan wedi ei dylunio gan Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Ymhlith y deunydd sydd ar gael ar-lein mae amrywiaeth o sgyrsiau a gweithiau creadigol, yn ogystal ag ôl rifynnau o Y Ddraig a gwybodaeth am olygyddion y cylchgrawn ac am Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Deunydd Cymraeg ar-lein

“Mae mwy o alw nag erioed am ddeunydd Cymraeg ar-lein, ac mae’r wefan hon yn rhoi llwyfan unigryw ar-lein i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau cyfweld, golygu ac ysgrifennu creadigol,” meddai Eurig Salisbury.

“Mae hefyd yn rhoi llwyfan i waith creadigol gan fyfyrwyr o adrannau eraill yn y Brifysgol, er enghraifft Twm Ebbsworth yn y rhifyn diweddaraf, yn ogystal ag arloeswyr mewn amrywiaeth o wahanol feysydd y tu hwnt i’r Brifysgol.”

Cafodd y rhifyn diweddaraf ei lansio yn ystod digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar Fai 28, yng nghwmni’r bardd a’r llenor, Megan Elenid Lewis, sy’n un o gyn-olygyddion y cylchgrawn.