Dau ffrind o’r Gorllewin sy’n hoff o hiwmor yw cyflwynwyr y rhaglen fwya’ poblogaidd erioed ar orsaf radio Prifysgol Caerdydd.

Crac y Wawr ydi enw rhaglen ddwyawr a hanner y myfyrwyr Jacob Morris a Nest Jenkins, rhwng 7.30 a 10 o’r gloch ar foreau Mercher ar Xpress Radio.

Mae’r naill yn dod o Lanelli ac yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth; a’r llall o bentref Lledrod yng Ngheredigion ac yn astudio’r Gyfraith a Chymraeg.

Roedd cannoedd o wrandawyr wedi tiwnio i mewn i’w rhaglen gyntaf ddechrau’r mis – y nifer mwyaf i wrando ar unrhyw sioe, yn Gymraeg neu yn Saesneg, ar yr orsaf ers ei sefydlu.

Y syniad 

Daeth cyfle i’r ddau fel rhan o’r CMCC (Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd).

“Holl bwrpas y sioe yw cael hwyl ben bore Mercher, gyda chaneuon reit dda ac eitemau ysgafn,” meddai Jacob Morris wrth golwg360, gan egluro fod yr eitemau hynny’n cynnwys ‘Rant yr Wythnos’, ‘Dyfyniad yr Wythnos gan Yvonne Tywydd’, a ‘Clique y Crac’.

“R’yn ni mor ddiolchgar i bawb sy’n tiwnio fewn hyd yn hyn, ac os nad ydyn nhw, rhowch wrandawiad i ni, ni’n addo fyddwn ni ddim yn siomi,” meddai wedyn.

Gallwch wrando ar Twitter, @cracywawr neu yn fan hyn.