Does yna ddim “cais swyddogol” wedi’i gyflwyno i Brifysgol Bangor ynglyn â’r posibilrwydd o ail-enwi rhan o ganolfan Pontio ar ôl y dramodydd, John Gwilym Jones.

Mae awdurdodau’r Coleg ar y Bryn wedi cadarnhau wrth golwg360 nad ydi grwp o stiwdants sy’n awyddus i weld y Stiwdio yn cael ei hail-fedyddio er cof am y dramodydd o’r Groeslon ger Caernarfon, eto wedi cyflwyno cais na chynnig ffurfiol.

“Am y rheswm hwnnw, fydd y brifysgol ddim yn gwneud sylw ar y posibilrwydd o ail-enwi rhan o ganolfan gelfyddydau Pontio,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wrth golwg360.

Dydi’r coleg, chwaith, meddai’r llefarydd, ddim yn ymwybodol o unrhyw gyfarfodydd na thrafodaeth ar y  mater.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd Cymdeithas John Gwilym Jones, a gafodd ei sefydlu yn 2017 gan fyfyrwyr Cymraeg Bangor, wedi anfon llythyr allan yn cyflwyno’r syniad o ail-enwi’r Stiwdio ar ôl awdur Ac Eto Nid Myfi, Lle Mynno’r Gwynt, Y Tad a’r Mab, ac Yr Adduned.