Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn galw ar Gymru i adnabod a chydnabod ei “harwyr”, wrth i fersiwn ar-lein newydd o’r Bywgraffiadur Cymreig gael ei lansio.

Mae’r wefan newydd, a fydd yn cael ei lansio gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones, yr wythnos hon (dydd Iau, Tachwedd 8), yn cynnwys bron 5,000 o fywgraffiadau o ddynion a menywod sydd wedi cyfrannu at fywyd Cymru a thu hwnt.

Cafodd Y Bywgraffiadur Cymreig ei gyhoeddi yn wreiddiol mewn print gan Gymdeithas y Cymrodorion yn 1959.

Daeth yn adnodd digidol yn 2004, ac mae bellach yn cael ei chynnal gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan olygyddiaeth yr Athro Dafydd Johnston.

Hyrwyddo “arwyr” Cymru

“Mae’n hollbwysig ein bod ni fel cenedl yn cydnabod pobol a wnaeth gyfraniad gwerthfawr yn ystod eu hoes, ac mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn adnodd cenedlaethol ar gyfer hynny,” meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

“Saif y Bywgraffiadur ochr yn ochr â phrif adnoddau digidol eraill Cymru ac mae’n sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol nid yn unig yn gwybod am unigolion nodedig ond yn cael eu hysbrydoli ganddyn nhw hefyd.”

Cyn y lansiad ei hun, bydd Elin Jones yn trafod cyfraniad menywod i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.