Mae cymdeithas lenyddol myfyrwyr Bangor yn galw am ail-enwi rhan o ganolfan gelfyddydau Pontio ar ôl y dramodydd a’r cyn-ddarlithydd, John Gwilym Jones.

Roedd enw’r gŵr o’r Groeslon wedi ei grybwyll flynyddoedd yn ôl fel enw addas ar gyfer theatr y ganolfan, cyn i Brifysgol Bangor benderfynu ar yr enw ‘Theatr Bryn Terfel’.

Ond yn ddiweddar, mae aelodau o Gymdeithas John Gwilym Jones, sef cymdeithas lenyddol i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol a gafodd ei sefydlu yn 2017, wedi cynnig y dylai ystafell y Stiwdio gael ei henwi ar ôl y cyn-ddarlithydd.

“Teyrnged barhaol”

“Roedd enwi’r Gymdeithas ar ôl un o hoelion wyth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg a’r theatr Gymraeg yn gyffredinol yn bwysig i ni,” meddai’r Gymdeithas mewn llythyr.

“Mae lle i gredu nad oes digon wedi ei wneud i goffau John Gwilym Jones a’i waith.

“Gobeithiwn, drwy enwi’r gymdeithas ar ei ôl, a seilio ein sgwrs flynyddol gyntaf ar ei waddol, ein bod wedi unioni fymryn ar y cam hwnnw. Serch hynny, rydan ni’n gwybod bod mwy i’w wneud.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Bangor a Chanolfan Pontio am ymateb.