Bydd cynllun i gadw ysgolion gwledig yn “gynaliadwy” yn cael ei lansio’n ddiweddarach heddiw (Hydref 12).

Dan y ‘Cynllun Gweithredu Addysg Wledig’ bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gadw ysgolion gwledig ar agor, a byddan nhw’n anelu at wella eu cysylltiadau rhyngrwyd.

Hefyd, bydd technoleg fideo yn cael ei chyflwyno mewn dosbarthiadau gwledig, a fydd yn eu galluogi i ‘ymuno’ o bell â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill.

‘E-sgol’ yw’r enw am hyn, ac mae’n debyg y bydd yn galluogi i ddisgyblion mewn ysgolion gwledig gymryd mantais ar ystod ehangach o bynciau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Cysylltu”

Bydd y cynllun yn cael ei lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ac mae hi’n ffyddiog y bydd y prosiect yn “cysylltu disgyblion … ar hyd a lled y wlad”

“Bydd yn sicrhau eu bod yn cael y profiad dysgu gorau hyd yn oed yn ardaloedd mwyaf gwledig y Deyrnas Unedig,” meddai Kirsty Williams.

“Os ydym yn sicrhau bod gan ddisgyblion ac ysgolion yng nghefn gwlad Cymru y cymorth iawn i lwyddo, yna gallwn sicrhau bod ein cymunedau gwledig a’n heconomi yn mynd o nerth i nerth.”