Mae enwau’r rhai fydd yn derbyn gwobrau er cof am dri o fawrion Cymru ar stondin y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, wedi’u cyhoeddi.

Bydd Gwobr John Davies, Gwobr Merêd a Gwobr Gwyn Thomas yn cael eu cyflwyno mewn derbyniad ddydd Mercher, Awst 8 ym Mae Caerdydd.

Mae’r gwobrau, ill tair, yn cydnabod llwyddiant myfyrwyr mewn nifer o feysydd.

Gwobr John Davies

Caiff Gwobr John Davies ei rhoi am y traethawd estynedig gorau trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.

Yr enillydd eleni yw Elen Mererid Osmond Hughes o Brifysgol Aberystwyth.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am yr enwebiad ac i’r Coleg Cymraeg am y wobr,” meddai. “Cefais bleser mawr o astudio Hanes ac mae derbyn y wobr hon, sy’n cydnabod pwysigrwydd ymchwilio ac astudio hanes Cymru yn hynod werthfawr i mi.”

Gwobr Merêd

Mae Gwobr Merêd, er cof am Dr Meredydd Evans, yn cydnabod cyfraniad myfyriwr cyfredol o’r Coleg i fywyd a diwylliant Cymraeg.

Yr enillydd eleni yw Gwyn Aled Rennolff o Brifysgol Abertawe.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd arbennig yma sy’n gydnabyddiaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe,” meddai.

Gwobr Gwyn Thomas

Caiff Gwobr Gwyn Thomas ei dyfarnu i’r myfyriwr sy’n cyflwyno’r traethawd estynedig is-raddedig gorau ym maes y Gymraeg.

Yn derbyn y wobr eleni mae Lowri Havard o Brifysgol Abertawe. Barddoniaeth cyn-Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor oedd testun ei thraethawd estynedig.

“Mae derbyn Gwobr Gwyn Thomas yn hwb enfawr i mi wrth barhau gyda fy ngyrfa academaidd,” meddai. “Gallaf ond gobeithio y byddai wedi mwynhau fy nehongliad o’i waith.”