Mae cyn-Brif Weithredwr Plaid Cymru a chyn-aelod o Ymddiriedolaeth y BBC yn gadael Cymru er mwyn dechrau bywyd newydd yn Tsieina.

Mae Karl Davies yn hedfan heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 26) am y Dwyrain Pell er mwyn gwneud yr hyn y mae ef ei hun yn ei ddisgrifio fel “torri rhych newydd”. Fe fydd yn treulio blwyddyn yno, yn y lle cyntaf, yn ninas Foshan yn ne-ddwyrain y wlad, yn dysgu Saesneg i oedolion.

Dywed fod y syniad o addysgy “wedi apelio “ ato erioed, a’i fod bellach mewn man yn ei fywyd lle mae ganddo’r rhyddid i wneud “rhywbeth cwbwl gwahanol”.

“Mi ddaeth fy nghyfnod i efo’r BBC i ben y llynedd, oherwydd ad-drefnu yn y fan honno, a newid system llywodraethant y BBC,” meddai Karl Davies wrth golwg360.

“Felly roedd rhaid i mi symud ymlaen i wneud rhywbeth gwahanol, ac ro’n i’n teimlo fy mod i wedi cael cyfnod mor hir ym myd y cyfryngau, felly mi wnes i fynd am rywbeth gwahanol…

“Roedd o wastad wedi bod yn ddymuniad i mi fyw dramor, ac felly dyma’r cyfle’n codi i mi weithio yn Tsieina i ddysgu Saesneg i oedolion, ac mi fachais ar y cyfle.”

Profi’r diwylliant

Yn ôl Karl Davies, mae wedi ffoli ar nifer o wahanol ddiwylliannau ledled y byd, gan gynnwys diwylliant yr Eidal a Japan, ac mae’n ychwanegu bod y cyfle i fynd i Tsieina yn “ymddangos mor gyffrous”.

“Mae’r ffaith ei fod yn ddiwylliant mor hen – yn ddiwylliant sy’n 4,000 o flynyddoedd oed – a’r cyfle o dreulio blwyddyn gron yna i ddod yn weddol gyfarwydd â’r diwylliant, a dysgu’r iaith y weddol, yn ymddangos yn ffantastig i mi…

“Mae Foshan gerllaw dinas Guangzhou, sef y drydedd ddinas fwya’ yn Tsieina ar ôl Shanghai a Beijing, a honno yw’r ardal sydd wedi bod fwya’ agored i ddylanwad o’r gorllewin dros y canrifoedd.

“Dyma hefyd ydi’r ardal, gan ei bod mor agos at Hong Kong a Macau, a benodwyd ar gyfer datblygu economaidd a diwydiannol yn ystod degawdau ola’r ugeinfed ganrif, felly mae’n hanesyddol ac yn ddiwylliannol yn ardal ddiddorol iawn, iawn.”

Symud yn barhaol?

Er mai dim ond cytundeb blwyddyn sydd gan Karl Davies fel athro Saesneg yn Foshan, fedr o ddim dweud yn siwr pryd y bydd yn dychwelyd i Gymru.

“Mae pob un dw i’n ei nabod sydd wedi bod yna, neu’n nabod pobol sydd wedi bod yna, yn dweud bod pobol yn mynd am flwyddyn, ond dydyn nhw ddim yn ymddangos yn ôl yn y wlad yma am flynyddoedd maith wedyn…”

“Mi ddylwn i deimlo’n weddol gartrefol yna, oherwydd dw i’n hedfan o Canton yng Nghaerdydd i Canton yn Tsieina.”