Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd y tywysog Cymreig cynhenid wnaeth y cyfraniad mwyaf i Gymru, yn ôl un arbenigwr.

Er bod Dr Rhun Emlyn, darlithydd Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn credu bod pob un o dywysogion Cymru wedi gwneud ei gyfraniad unigryw, Llywelyn ap Gruffydd wnaeth ddatblygu Cymru fel cenedl, meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl i Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, ddweud y byddai’n rhoi mwy o sylw i dywysogion Cymru a hynny drwy wneud mwy o’n cestyll hynafol.

“Am wn i mae yna nifer o dywysogion Cymreig sydd efallai angen cael ein sylw, mae’n siŵr mai’r un amlwg yw Llywelyn ap Gruffydd felly, Llywelyn ein Llyw Olaf, fel y Tywysog amlwg wnaeth lwyddo i greu tywysogaeth Gymreig ar lefel llawer mwy ffurfiol nag oedd tywysogion eraill wedi llwyddo,” meddai Rhun Emlyn wrth golwg360.

“A gosod y sail mewn gwirionedd ar gyfer gwladwriaeth Gymreig wnaeth wrth gwrs ddim para oherwydd concwest Edward I, felly yn sicr o ran uno Cymru, o ran datblygu hunaniaeth Gymreig, mae gan Llywelyn ap Gruffydd le pwysig iawn.

“Pan ry’n ni’n meddwl am gestyll, wnaeth o ddechrau adeiladu cyfres o gestyll ar hyd y ffin hefyd, felly cestyll fel Castell Dolforwyn yn enghraifft amlwg.

“Ond mae yna dywysogion eraill sy’n sicr yn haeddu cael llawer o sylw – yr Arglwydd Rhys yn y Deheubarth yn bwysig fel un o’r tywysogion wnaeth gychwyn adeiladu cestyll cerrig yng Nghymru.

“Ond hefyd yn un oedd yn sicr ddatblygu hunaniaeth Gymreig drwy ddatblygu’r gyfraith, cael eisteddfod ac yn y blaen hefyd, felly maen nhw yn amlwg yn sticio allan fel unigolion y dylai gael sylw.”

Croesawu ond angen “datblygu”

Dywed Rhun Emlyn ei fod yn croesawu sylwadau Dafydd Elis-Thomas ond bod angen dysgu mwy o hanes Cymru mewn ysgolion ledled y wlad.

“Dw i’n meddwl mai o’n bwysig yn gyffredinol bod yna fwy o sylw yn cael ei roi i hanes Cymru yn benodol a dw i’n meddwl bod ni’n gweld mwy o hyn, diolch byth, yn yr ysgolion ar hyn o bryd, mae’n rhywbeth sydd angen cael ei ddatblygu ymhellach.

“Mae’n anffodus am wn i, pan ry’n ni’n meddwl am gestyll yng Nghymru, wrth gwrs beth sydd wedi bod yn cael sylw ydy Cestyll Edward I.

“Dw i’n meddwl bod o’n rhywbeth i’w groesawu bod yna fwy o sylw yn mynd i’r cestyll cynhenid Cymreig, sy’n llawer iawn fwy diddorol na’r cestyll gododd Edward I.

“Mae’n gam positif yn dilyn be’ ddigwyddodd y llynedd gyda’r cerflun yma, y fodrwy, oedd i fod yng Nghastell y Fflint.”