Mae angen mwy o bwyslais ar ddysgu hanes y canol oesoedd mewn ysgolion, yn ôl un cyn-athro hanes.

Er bod Hefin Mathias yn cefnogi bwriad Dafydd Elis-Thomas i roi mwy o le amlwg i dywysogion Cymru drwy hybu cestyll Cadw, mae’n dweud bod ymwybyddiaeth y genedl o hanes y tywysogion yn “mynd llai ac yn llai”.

Wrth i genedlaethau ddysgu llai am hanes y tywysogion cynhenid, mae’r sefyllfa yn troi yn “gylch dieflig”, meddai, gydag athrawon y dyfodol yn llai tebygol o ddysgu’r hanes i’w disgyblion nhw.

“Mae’n dibynnu yn y bôn ar faint o gyllid sydd gyda chi i wneud y llefydd yma yn fwy amlwg, dw i’n cefnogi Dafydd Elis-Thomas yn llwyr yn yr hyn mae e’n trio gwneud,” meddai’r arbenigwr hanes, sy’n cyn bennaeth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

“Mae e’n trio hybu ein hymwybyddiaeth ni o Gymru fel cenedl ac mae cyfraniad y tywysogion i’r datblygiad yma o Gymru fel cenedl yn allweddol bwysig i’n dealltwriaeth ni o hanes Cymru.

“Ond ar yr un pryd, mae cyd-destun hyn yn genedlaethol yn bwysig, bod yna anwybodaeth yn gyffredinol ymhlith pobol Cymru eu hunain o’u tywysogion, heb sôn am bobol y tu allan i Gymru.”

Pwyso a mesur y ddau Lywelyn

Llywelyn Fawr, a’i ŵyr ar ôl e, Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf, sy’n sefyll allan i Hefin Mathias, wrth feddwl am eu cyfraniad i Gymru.

“O ran y syniad o genedl, dw i’n meddwl bod Llywelyn Fawr yn bwysig dros ben, a’i ŵyr e wedyn Llywelyn ap Gruffydd achos mae’r syniad o genedl yn datblygu’n gryf iawn yn y cyfnod hwnnw, y syniad o uno Cymru dan oruchwyliaeth un tywysog cenedlaethol.

“Mi gafwyd y teitl hwnnw yn 1267 gan Harri’r III ond fe gollwyd y teitl hwnnw wedyn nes ymlaen pan wnaeth Edward I ymosod ar Gymru. Felly mae eu cyfraniad nhw i’n syniad ni o genedl yn sicr yn allweddol bwysig.

“Ar ôl cwymp Llewelyn wedyn yn 1282, mae’r syniad hwnnw yn cael ei atgyfodi wedyn gan Owain Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif.

“Ond wedyn wrth gwrs, pan mae’r Tuduriaid yn dod i rym, maen nhw mwy neu lai yn claddu hanes Cymru yn gyfan gwbl, mae Cymru fel gwlad ar wahân yn diflannu’n llwyr o 1536 tan 1999 pan gafwyd y Cynulliad. Felly yn y cyd-destun yna dw i’n meddwl y dylid edrych ar y mater yna.”

Opsiwn ydi Hanes 

“Mae Cadw yn gwneud cyfraniad mawr ond dw i’n meddwl bod eisiau cyplysu hynny gydag ysgolion Cymru,” meddai Hefin Mathias wedyn.

“Mae TGAU Hanes yn bwnc opsiynol, felly lleiafrif o blant Cymru sy’n dilyn TGAU hanes beth bynnag, o fewn y cwrs TGAU, does dim sôn am yr oesoedd canol o gwbl, does dim sôn am yr oesoedd canol yn Lefel A chwaith.

“Felly mae hanes canol oesol Cymru i raddau helaeth yn dir neb i’r rhan fwyaf o bobol, gan gynnwys myfyrwyr eu hunain.

“Ac wrth gwrs mae athrawon sy’n mynd i brifysgolion i ddilyn hanes, maen nhw yn eu tro wedyn yn cael eu trwytho yn hanes modern, a prin yw hi felly eu cysylltiad â hanes canoloesol felly mae’n gylch dieflig fel petai.

“Ac mae’r cylch dieflig yma yn golygu bod ein hymwybyddiaeth ni o hanes ein hunain o’r oesoedd canol yn mynd yn llai ac yn llai fel mae’r amser yn mynd ymlaen.”