Bydd unrhyw benderfyniad gan ysgolion yng Ngwynedd i dorri swyddi neu gwtogi ar oriau staff cefnogol neu leihau swyddi yn dod ar ôl “ystyriaeth fanwl”.

Dyna yw ymateb y Cyngor yn sgil adroddiadau o gyfeiriad undeb UNISON bod swyddi “cannoedd” o staff cynorthwyol mewn 21 ysgol yng Ngwynedd yn y fantol.

“Mae pob opsiwn posib ar gyfer gwireddu arbedion yn derbyn ystyriaeth fanwl, ac yn cael eu gweithredu lle bynnag mae hynny’n bosib, cyn i ysgol ystyried yr angen i gwtogi oriau staff cefnogol neu leihau swyddi,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Pan nad oes opsiwn ond ystyried lleihau lefelau staffio, mae’r broses yn cael ei gweithredu mewn ymgynghoriad llawn gyda’r undebau llafur perthnasol.

“Os, ar ddiwedd y broses, bydd penderfyniad yn cael ei wneud sy’n effeithio ar unigolyn, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ganfod swydd amgen ar eu cyfer.”

Y cefndir

Yn ôl yr undeb, mae gweithwyr cynorthwyol sydd yn cynorthwyo plant ag anableddau dysgu, ymysg y rhai sy’n wynebu colli eu swyddi.

Mae’n ymddangos mai arbed arian yw’r cymhelliad. Mae’r Cyngor sir yn mynnu eu bod wedi gwarchod ysgolion y sir o “effaith llawn” toriadau i’w cyllid.