Mae undeb athrawon yn pryderu fod gan ysgolion Cymru lai o arian wrth gefn nag oedd ganddyn nhw flwyddyn yn ôl.

Eleni, mae gan ysgolion Cymru £46 miliwn o arian wrth gefn, neu £102 i bob disgybl.

£64 miliwn oedd wrth gefn yn 2016.

Mae Undeb Prifathrawon Cymru wedi dweud bod y sefyllfa bresennol yn “anghynaladwy”.

“Herio” ysgolion i wario

Y llynedd fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ei bod wedi synnu o weld cymaint o arian oedd gan ysgolion wrth gefn.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn dweud ei bod yn herio ysgolion i ddefnyddio’r arian.

Mae 88% o’r arian wrth gefn wedi’i neilltuo ar gyfer ysgolion cynradd, tra bod y lefel uchaf o arian i bob disgybl yn Ynys Môn – £223 y pen – a’r isaf yn Sir Ddinbych, sydd â diffyg o £70 y disgybl.

Yn ôl datganiad Llywodraeth Cymru, mae yna ddarlun cymysg o ran effeithiolrwydd ysgolion i wario’r arian.

“Rydym wedi herio llywodraeth leol i sicrhau bod ysgolion yn gwneud defnydd da o’r arian sydd wedi’i gadw,” meddai llefarydd.

“Tra bod lefel gyffredinol yr arian wrth gefn wedi lleihau, a bod rhai ysgolion yn gwneud defnydd gwell o’r arian, mae’r darlun yn parhau yn gymysg gyda rhai ysgolion yn cadw dros 10% o’u gwariant.

“Byddwn yn gweithio gyda chynghorau dros y misoedd nesaf i weld beth arall gellir ei wneud i sicrhau bod pob ysgol yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.”