Llun: PA
Mae’r rheoleiddiwr addysg wedi argymell cyfres o newidiadau i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o ddisgyblion sy’n sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar.

Cafodd mwy na 43,000 o ddisgyblion blwyddyn 10 – y nifer uchaf erioed – eu cofrestru ar gyfer arholiadau TGAU eleni, blwyddyn cyn diwedd eu cyrsiau dwy flynedd o hyd.

Mae nifer gan gynnwys yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn pryderu bod cofrestru cynnar yn rhwystro plant rhag gwireddu eu llawn botensial, tra bod eraill yn ei weld fel hwb i ddisgyblion.

Mewn adroddiad sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (Hydref 16) mae Cymwysterau Cymru wedi amlinellu dau gam gweithredu er mwyn rhwystro’r broblem.

Argymhellion

Yn ôl yr adroddiad dylai Llywodraeth Cymru newid y ffordd mae mesur perfformiad ysgolion yn cael eu cyfrifo, fel mai dim ond y radd gyntaf mae disgyblion yn derbyn sydd yn cael ei ystyried.

Mae hefyd yn awgrymu codi cyfyngiadau ar gymwysterau TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith, fel bod myfyrwyr sy’n ailsefyll yn medru cofrestru ym mis Tachwedd.

Mae Cymwysterau Cymru yn dadlau y byddai’r newidiadau yma yn caniatáu i gofrestru cynnar barhau ond yn sicrhau bod y penderfyniad i wneud hynny “er budd gorau’r disgybl.”

“Lleddfu pwysau”

“Yn ein barn ni, mae buddiannau gorau’r myfyrwyr yn hollbwysig,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Cymwysterau Cymru, Philip Blaker.

“Credwn y bydd y newidiadau hyn yn lleddfu rhywfaint o’r pwysau ar ysgolion i gofrestru niferoedd mawr o fyfyrwyr yn gynnar tra’n eu galluogi i ddefnyddio cofrestru cynnar ar gyfer y rheini a fydd yn elwa fwyaf ohono.

“Bydd y camau gweithredu a nodwyd gennym yn caniatáu i ysgolion ddefnyddio cofrestru cynnar fel adnodd ar gyfer y rhai a fyddai’n elwa fwyaf ohono, heb orfod cydbwyso pwysau eraill sy’n cystadlu, er enghraifft, ym mha ffordd mae ysgolion eraill yn ei ddefnyddio.”

“Buddiannau’r disgybl yn dod gyntaf”

Mewn ymateb, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg mai dim ond ymgais gyntaf disgybl sy’n sefyll arholiad TGAU fydd yn cyfri ym mesurau perfformiad yr ysgol o haf 2019 ymlaen.  Mae’r polisi cyfredol yn caniatáu i ysgolion gymryd y radd orau o sawl ymgais.

Dywedodd Kirsty Williams: “Bydd y newidiadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, ar sail canfyddiadau Cymwysterau Cymru, yn sicrhau mai buddiannau’r disgybl sy’n dod gyntaf o hyd.

“Rwy’n pryderu bod disgyblion sydd â’r potensial i gael graddau A*, A neu B ar ddiwedd cwrs dwy flynedd, yn gorfod bodloni ar C. Yn amlach na pheidio, mae hyn oherwydd eu bod yn sefyll yr arholiad yn gynnar ac nid ydynt yn cael eu hail gofrestru ar gyfer yr arholiad eto. Rwyf am weld pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn yn yr ysgol. Ni ddylid cofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau oni bai bod y disgybl o dan sylw yn mynd i elwa ar hynny.

“Mae TGAUau yn arholiadau sydd wedi eu cynllunio i’w sefyll ar ôl dwy flynedd o addysgu, nid un.  Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at gwricwlwm cytbwys ac eang, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i’n plant a’n pobl ifanc.”