Kirsty Williams
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd cwricwlwm addysg newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru tan 2022.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r cwricwlwm, gafodd ei lunio ar sail argymhellion yr Athro Graham Donaldson, gael ei gyflwyno i athrawon yn 2018 a’i weithredu erbyn 2021.

Ond ym mis Chwefror fe wnaeth un o bwyllgorau’r Cynulliad fynegi pryderon nad oedd athrawon yn barod amdano nac yn glir o’r disgwyliadau. Mewn datganiad heddiw dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, fod cyflwyno’r cwricwlwm yn raddol yn “ddewis cywir”.  

“Bydd y dull hwn, a’r flwyddyn ychwanegol, yn golygu y bydd gan bob ysgol yr amser i gyfrannu at ddatblygiad y Cwricwlwm ac i baratoi’n llwyr ar gyfer y newidiadau,” meddai.

Amserlen newydd

* Fe fydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno mewn dosbarthiadau meithrin hyd at Flwyddyn 7 yn 2022; ym mlwyddyn 8 yn 2023; ym mlwyddyn 9 yn 2024, ym mlwyddyn 10 yn 2025 ac ym mlwyddyn 11 yn 2026.

* Bydd pob ysgol yn cael gweld y cwricwlwm newydd o 2020 ymlaen er mwyn rhoi amser i athrawon baratoi.

Cynlluniau eraill

Yn rhan o’r cynllun addysg newydd, mae Kirsty Williams yn gobeithio “codi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad”.

Drwy’r cynllun mae’n gobeithio lleihau meintiau dosbarthiadau, newid y system hyfforddiant i staff a gwella’r gefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fe fydd Academi Genedlaethol yn cael ei sefydlu hefyd ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gyda’r gobaith o leihau gwaith papur i athrawon, ac mae cynlluniau i fuddsoddi £1.1 biliwn i uwchraddio adeiladau ysgolion.

“Nod ein cynllun yw sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf ac i gyflawni ei llawn botensial,” ychwanegodd Kirsty Williams.